Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 24 Ionawr 2019
Amser:
09.20 -
10.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5088
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Andrew RT Davies AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Helen Mary Jones AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Robert Floyd, Llywodraeth Cymru Graham Rees, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Lorna Scurlock (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Jenny Rathbone AC sy'n cymryd lle Jayne Bryant AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.
1.3 Diolchodd y Cadeirydd i Jayne Bryant AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar gynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â phryderon mewn perthynas â chymal 18 o Fil Pysgodfeydd y DU yn dilyn trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Nododd y
Pwyllgor y papurau o dan eitem 3.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a
Materion Gwledig a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i nodi ei
bryderon ynghylch yr oedi wrth ymateb i'w adroddiad ar gyllideb
ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-2020.
4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 5 cyfarfod heddiw.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.